Annibyniaeth ddienaid neu annibyniaeth go iawn?

24 Awst

“Mae’n rhaid i[’r mudiad cenedlaethol] ddangos i bobl Iwerddon nad yw ein cenedlaetholdeb yn ddim byd mwy na delfrydu melancolaidd o‘r gorffennol, ond hefyd bod ganddo’r gallu i greu atebion pendant a chlir i broblemau’r presennol… Gellid pledio y byddai delfryd o Weriniaeth Sosialaidd yn awgrymu, fel y mae, chwyldro gwleidyddol ac economaidd cyflawn, a fyddai’n sicr o ddieithrio ein cefnogwyr dosbarth canol ac aristocrataidd, a fyddai’n gwaredu rhag colli eu heiddo a’u breintiau”

“Os tynnwch chi’r Fyddin Seisnig allan yfory a chodi’r faner werdd dros Gastell Dulyn, oni ewch chi ati i drefnu Gweriniaeth Sosialaidd, bydd eich ymdrechion yn ofer. Bydd Lloegr yn dal i’ch rheoli … 

“Fel sosialydd rwy’n barod i wneud popeth y gall un dyn ei wneud dros gyflawni etifeddiaeth briod ein mamwlad – annibyniaeth; ond os gofynnwch i mi ollwng yr un rhan leiaf o gyfiawnder cymdeithasol er mwyn cymodi gyda’r dosbarthau breintiedig, wedyn bydd rhaid i mi ymwrthod. Ni fyddai gweithredu yn y fath modd yn anrhydeddus na dichonadwy. 

Peidiwn fyth ag anghofio na chyrhaeddir y Nef gan y sawl sy’n gorymdeithio gyda’r diawl. Gadewch i ni ddatgan yn agored ein ffydd: mae rhesymeg treigl hanes ar ein hochor ni.” – James Connolly, Cenedlaetholdeb a Sosialaeth (1897)

Mae geiriau Connolly o’r ganrif cyn diwethaf yn teimlo’n berthnasol iawn i’r mudiad cenedlaethol yng Nghymru heddiw.  Mae ei erthygl yn mynd at galon ystyr annibyniaeth gyfansoddiadol: ymgyrch sydd, heb os, wedi dechrau codi stêm yma’n ddiweddar.

Rwy’n falch bod nifer o ymgyrchwyr yn y mudiad annibyniaeth cymharol newydd sydd gyda ni yn trin a thrafod y materion hyn gan ofyn i’w hunain: a ydy annibyniaeth i Gymru’n werth ei hennill ar unrhyw delerau? A oes angen gweledigaeth ar gyfer y math o genedl rydd rydyn ni’n ceisio ei hadeiladu? Neu a ydyn ni’n gallu penderfynu ar bopeth wedi annibyniaeth? Mae’r broses o gwestiynu hyn, a chwestiynu ein gilydd, yn eithriadol o bwysig a pheth hynod o iach i’w wneud.  Yn hynny o beth, mae’n destun siom i mi weld rhai yn ymosod yn ffyrnig ar eraill sy’n cefnogi neu’n chwilfrydig am annibyniaeth, dim ond oherwydd eu bod yn wahanol, boed iddynt gefnogi plaid wleidyddol arall ynteu’n dod o gefndir anghyfarwydd.

Fel cenedl sydd wedi brwydro dros ei heinioes am gyhyd, mae weithiau’n anghysurus i ni fynd drwy gyfnod lle mae brwydrau a gwahaniaethau mewnol yn dod i’r amlwg. Ac fel pobl sydd wedi ennill peth hunanlywodraeth yn gymharol ddiweddar, mae cyndynrwydd naturiol i ganiatáu gwahaniaeth farn ar y cwestiwn cenedlaethol oddi fewn i’r mudiad cenedlaethol.

Mae cenedlaetholdeb Dafydd Iwan-esque – rydyn ni mor falch ein bod ni ‘yma o hyd’ – yn gyffredin iawn. Nid fy mod i’n awgrymu bod Dafydd Iwan ei hun yn euog o hyn, ond mae naratif y gân ‘Yma o Hyd’, yn ein gwahodd i fod yn ddiolchgar ein bod wedi goroesi fel cenedl, yn hytrach nag edrych tua’r gorwel i weld yr hyn sy’n bosib. Gellid dadlau bod hyn yn estyniad o naratif genedlaethol y gwelwn yng ngeiriau ‘Buchedd Garmon’ – “Sefwch gyda mi yn y bwlch, fel y cadwer i’r oesoedd a ddel y glendid a fu.” Felly, y frwydr yw cadw Cymru fel cenedl fel y mae neu y bu, ‘er gwaethaf pawb a phopeth’, yn hytrach na’i datblygu a’i pherffeithio.

Mae perygl ein bod wedi amsugno’r hen naratif cystal, ac am gyhyd, nad oes gennym y gallu i’w chwestiynu. Efallai erbyn hyn ei bod yn gywirach dadlau bod annibyniaeth i Gymru yn anochel. Nid oes angen edrych yn bell i weld yr ysgrifen ar wal y Deyrnas Gyfunol: mae pawb o’r Prif Weinidog yn ein Senedd, i Lywodraeth San Steffan ei hun yn ei synhwyro. Wedi’r cwbl, mae diwedd i bob ymerodraeth yn y pendraw.

Nid ar chwarae bach ydy miloedd o bobl yn mynd allan ar y strydoedd yng Nghymru dros unrhyw newid cyfansoddiadol. Nid ar chwarae bach ydyn ni’n gweld Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol yn arddel teitl ychwanegol ‘Gweinidog yr Undeb’ – cam sy’n arwydd clir o bryder, os nad panic, y Sefydliad Prydeinig. Ac nid ar chwarae bach ydyn ni’n gweld mudiad annibyniaeth yn blodeuo i mewn i enfys o fudiadau. Fel dywedodd Connolly, ‘mae rhesymeg digwyddiadau gyda ni.’

Ond, tra ein bod yn iawn i ni gael ein calonogi gan y datblygiadau hyn, mae angen, ar yr un pryd, i ni dderbyn nad yw annibyniaeth yn banasea sy’n arwain yn anochel at wladwriaeth well. Yn achos Cymru, mae’n deg dadlau bod ein gwlad fechan ôl-drefedigaethol yn debygol o fod, yn ei hanfod, yn un well, ond dyw hynny ddim yn sicr. Mae annibyniaeth gyfansoddiadol yn cynnig cyfle i lunio gwladwriaeth amgen, ond dim ond os ydyn ni’n cymryd y cyfle hwnnw. Felly, byddwn i’n dadlau bod y prif gwestiwn sydd angen i ni wynebu yw nid, a ddylai Cymru fod yn annibynnol, ond, pa fath o wlad annibynnol yr ydyn ni’n dymuno ei gweld a’i chyd-greu?

Mae eraill sy’n dadlau’n wahanol. Iddyn nhw, mae annibyniaeth yn eistedd mewn bocs ar wahân i gwestiynau gwleidyddol eraill: un ymgyrch dros un peth ydyw. Iddyn nhw, fater i’r bobl wedi i ni ennill annibyniaeth fydd natur a strwythur y wladwriaeth Gymreig annibynnol. Maen nhw’n credu bod cymryd safbwyntiau ar faterion eraill yn mynd i arwain at golli cefnogaeth i’r achos, yn union fel rhybuddiodd Connolly am agwedd rhai yn Iwerddon dros ganrif yn ôl. Mae rhai o’r bobl hyn yn dadlau na allwn ni gyd-sefyll, neu fynd allan o’n ffordd i gyd-sefyll, gyda phobl LHDT neu Fwslemiaid, achos gallwn ni golli cefnogaeth i’r prif nod. Ac, wedi’r cwbl, mater i bobl a grwpiau eraill yw’r ymgyrchoedd hynny.

I mi, mae’r ddadl honno’n gamgymeriad strategol, ond yn bwysicach byth, yn gamgymeriad moesol. Yn anffodus, fodd bynnag, mae’n ymddangos bod llawer iawn gormod o bobl wedi derbyn y rhesymeg wallus hon. Mae gwir berygl bod y mudiad annibyniaeth yn colli ei ffordd ac yn euog o baratoi llwybr at yr hyn rwy’n ei galw’n annibyniaeth ddienaid – un lle bydd yr  anghyfiawnderau cymdeithasol presennol yn parhau oherwydd bod y mudiad annibyniaeth heddiw yn eu hanwybyddu.

Mae’n rhaid i ni gwestiynu pam fo nifer o ymgyrchwyr dros annibyniaeth yn llafar eu barn yn erbyn ail-enwi Pont Hafren, ond eto yn dawel am y cynnydd mewn ffasgiaeth. Nid oes modd i ymgyrchwyr dros annibyniaeth ddadlau ar un llaw nad ydyn nhw eisiau datgan safbwynt ar fygythiad Trump a Farage, tra ar y llaw arall yn trydar am byth bythoedd am ail-enwi un bont. Os nad ydyn nhw’n sicrhau bod yr achos dros annibyniaeth a chyfiawnder cymdeithasol ehangach yn mynd law yn llaw, dyw hi ddim gwerth ei hennill.

I ail-adrodd hen ystrydeb: mae’n rhaid i ni fod y newid rydyn ni eisiau gweld yn y byd. Mae’n rhaid i ni barchu a hyrwyddo hawliau menywod, hawliau pobl LHDT, hawliau gweithwyr, hawliau i’r Gymraeg a hawliau lleiafrifoedd ethnig fel rhan o’r ymgyrch dros annibyniaeth, gan mai dyna’r math o gymdeithas rydyn ni eisiau creu. Dylen ni osod gerbron yr achos dros sut mae annibyniaeth yn mynd i daclo’r heriau enfawr, megis anghyfartaledd incwm a newid hinsawdd, sy’n wynebu ein cymdeithas: dyna pam rydyn ni eisiau annibyniaeth. Felly, rwy’n glir yn fy meddwl bod dyletswydd foesol ar y mudiad cenedlaethol i amlinellu sut mae annibyniaeth yn mynd i greu cymdeithas fwy cyfiawn yn hytrach nag ei thrin fel ymgyrch ar wahân.

I ryw raddau, dyw’r cwestiynau hyn ddim yn gwbl newydd i’r mudiad cenedlaethol yng Nghymru. Mae’r tyndra rhwng hunanlywodraeth ac egwyddorion eraill wedi bod yn rhan o ddisgẃrs y mudiad cenedlaethol ers degawdau lawer. Wedi refferendwm 2011, atgyfododd y Prifardd Catrin Dafydd y thema mewn cerdd bwerus a thrawiadol:

“… felly pwy nawr sy’n gafael yn llaw yr hen wraig a’i gwadd ar daith i’r Gymru Gymraeg? Mae’n dipyn o boendod i’r prosiect yma, so hi’n perthyn i bawb felly yn well gweud ‘na’.  Mae’n anodd ei theilwra nawr i weddu i’r cyfansoddiad mawr. O, oes, mae peth wmbreth wedi ei gyflawni, ond pa werth i’r holl beth os na ddaw hi ‘da ni? Mae ‘na berygl rhyw ddydd ar ddiwedd y trac, pan ddaw trên annibyniaeth i’r orsaf, clac, clac; a daw pawb oddi arno â baner y ddraig, a neb yn y cwmni yn siarad Cymraeg.”  Y Prifardd Catrin Dafydd

Ac, wrth reswm, mae geiriau Catrin Dafydd hefyd yn berthnasol i hawliau grwpiau lleiafrifol eraill, a phobl ar ymylon ein cymdeithas. Dyma’r ‘niche issues’ bondigrybwyll: y grwpiau lleiafrifol sy’n gorfod brwydro dros hawliau sylfaenol yn ein cymdeithas. Am derm erchyll: ni ddylai fod lle i’w barn ym mhrif-ffrwd y ddadl dros annibyniaeth. Ond eto, rwy’n ofni mai dyna’r agwedd mae gormod o ymgyrchwyr dros annibyniaeth yn fodlon ei goddef, hyd yn oed os nad ydynt yn fodlon ei hyrwyddo eu hunain.  Mae’n rhaid i dal ein hunain i safonau gwell na hyn.

Rwy’n nabod llawer iawn o bobl yn y mudiad cenedlaethol sy’n deall y ddadl ac yn gwbl ymroddedig i annibyniaeth go iawn. Rwy’n ffyddiog y bydd y lleisiau blaengar hyn, fel y rhai sydd yn y mudiad Undod, yn ennill yn y pendraw, drwy’r dadlau a hunan-gwestiynu angenrheidiol.  Bydd y bobl hyn yn ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru er mwyn ennill annibyniaeth yng ngwir ystyr y gair: annibyniaeth gyfansoddiadol sydd hefyd yn annibyniaeth o gyfundrefn a gwladwriaeth Brydeinig neo-ryddfrydol, ymerodraethol a rhyfelgar sy’n dinistrio bywydau pobl fregus, cymunedau sydd wedi eu hallgau, ynghyd â’r iaith Gymraeg. Drwy wneud hynny, sicrhawn pan godwn ni’r ddraig goch dros Gastell Caerdydd yn y Gymru rydd, mi fydd hi wedi bod yn ymgyrch werth ei hennill.

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: