Fe gafwyd dadl led-danllyd ynghylch y berf(enw) cywir yn Gymraeg am y gair sy’n disgrifio’r weithred o adael sylw ar Twitter cwpl o wythnosau yn ôl.
Sylwadau Berwyn Rowlands ar Radio Cymru a sbardunodd y ffrae fach ryw fore dydd Gwener bythefnos neu dair wythnos yn ôl. Fe ddefnyddiodd Berwyn, yn ddigon naturiol, y gair ‘trydaru’ sawl gwaith wrth adolygu’r papurau ar y Post Cyntaf ac fe wnes i ei ganmol am hynny ar y pryd ar Twitter, ond yn rhy frwdfrydig mae’n debyg.
Yn ystod y misoedd diwethaf rwyf wedi clywed nifer o bobl llawer mwy huawdl yn y Gymraeg na minnau yn defnyddio’r gair newydd hwn – bardd, cynrychiolydd o’r IWA, ac eraill.Felly nid mater ohonof i yn unig yn ceisio defnyddio’r gair yw e.
Dyma’r mathau o sylwadau a welwyd ar y we yn sgil sylwadau Berwyn:
“Berwyn Rowlands yn gwneud defnydd da iawn o’r gair ‘trydaru’ ar @bbcradiocymru #trydaru #twitter
— colinnosworthy (@colinnosworthy) March 23, 2012
“RT @owen_garry trydar! trydaru!! Trafodwch! > o ni’n meddwl mae trydar oedd yn iawn? Ond dwi ddim yn hollol hyderus…
— Steffan Powell (@SteffanPowell) March 23, 2012
“trydar! trydaru!! Trafodwch! — Garry Owen (@owen_garry) March 23, 2012
“@owen_garry trydar= tweetingtrydaru= twittering felly ma’n dibynnu ar safon y cynnwys. Fi’n trydaru rwts fel arfer trydar n gall weithiau
— Chris Castle (@CestyllChris) March 23, 2012
Wrth edrych yn ôl, rwy’n difaru’r agwedd ddi-flewyn ar dafod yn y ddadl honno. Wrth gwrs, mater digon dibwys yw hwn, ond yn bersonol, rwy’n gwrthod yr agwedd sy’n cyhuddo pobl o fod yn gwbl anghywir un ffordd a’r llall. Rwyf wedi dewis defnyddio ‘trydaru’ oherwydd ei fod wedi dod allan o’m ceg heb feddwl amdano fe, yn bersonol credaf y dylen ni groesawu geiriau Cymraeg newydd yn dod i fodolaeth. Ond yn yr achos yma, gadewch i ni adael pawb at y peth y bo.

